Skip to main content
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru

BARRYLESQUE (OH! It's a parody!)

16 Rhagfyr 2026 – 2 Ionawr 2027
Stiwdio Weston
BARRYLESQUE (OH! It's a parody!)
16 Rhagfyr 2026 – 2 Ionawr 2027, Stiwdio Weston

Amser dechrau a hyd:

8:30pm, doors 8pm

Thu 31 December: 3.30pm, doors 3pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Strong Language, Nudity and Possible Strobe 

BARRYLESQUE (OH! It's a parody!)

Daliwch ‘mlaen i’ch hetiau papur a’r bybls… Y Nadolig yma, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno noson fwyaf hudolus, mwyaf beiddgar a mwyaf Cymreig yr ŵyl.

Sioe ysblennydd cabaret drag yw Barrylesque sy’n rhoi triniaeth Ynys y Barri llawn i fyd annwyl Gavin & Stacey. Gyda’ch hoff gymeriadau i gyd, wedi’u hailddychmygu fel perfformwyr drag a bwrlésg epig ar gyfer noson o ganu byw, meimio, comedi ac anhrefn. Gallwch chi ddisgwyl ymadroddion bachog eiconig, cymeriadau pryfoclyd a diweddglo cyd-ganu a fydd yn gwneud i bawb godi ar eu traed.

Ac efallai, byddwn ni’n gweithio allan beth ddigwyddodd ar y trip pysgota.

Cabaret, comedi sefyllfa ac yn llawn eironi – Barrylesque yw’r unig anrheg Nadolig sy’n werth ei rhoi eleni.

Peidiwch â’i cholli. Mae’n lysh.

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

PERFFORMIADAU HYGYRCH

Perfformiad Disgrifiad Sain: 21 Rhagfyr

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 28 Rhagfyr

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy am Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych

Ymwadiad / Hysbysiad Hawliau

Mae Barrylesque: Oh! It’s a Parody! yn gynhyrchiad cabaret parodi gwreiddiol. Nid yw’n ymgysylltiedig â, wedi’i gymeradwyo gan, wedi’i awdurdodi gan, nac yn gysylltiedig â’r BBC, Baby Cow Productions, James Corden, Ruth Jones nac unrhyw greawdwyr, perfformwyr, darlledwyr, cynhyrchwyr, dosbarthwyr na deiliaid hawliau sy’n gysylltiedig â Gavin & Stacey.

Caiff unrhyw gyfeiriadau at deledu, diwylliant poblogaidd, cymeriadau, lleoliadau, ymadroddion neu straeon adnabyddus eu defnyddio at ddibenion parodi, dychanu, clytwaith a sylwebaeth. Ni awgrymir cymeradwyaeth na chydgysylltiad swyddogol. 

Cast Barrylesque

Joe Crabbe / Jolene Dover fel Nessa
Ren Simons / Justin Drag fel Smithy
Steph Gawne / Foo Foo Labelle fel Gwen a Doris
Matt Hazzard fel Mick a Dave
Chloe Gale / Cadbury Parfait fel Pam a Dawn
Zaki Musa fel Bryn a Pete

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Luke Hereford
Cynhyrchydd Creadigol: Aled Lloyd Rees
Cyd-greadigol a Dylunydd Sain/Gweledol: JD Young, aka Carrot
Cyd-greadigol ac Ysgrifennwr Sgript Gomedi: Mel Owen
Rheolwr Cynhyrchu: Tom Naylor
Dylunydd Set a Chostiwm: Brad Caleb Lee
Dylunydd LX: Jay Shewry

Rheolwr Llwyfan: Garrin Clarke

Disgrifiwr Sain: Michelle Perez

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Nikki Harris

Rapper in white and partner in dark stand on stage steps under purple spotlight with graffiti backdrop
Wedi'i gyflwyno yn

Stiwdio Weston

Lleoliad bach yw Stiwdio Weston, sy'n berffaith er mwyn cael teimlad agos-atoch a phersonol yn ystod cynyrchiadau bach, gwaith theatr o fri, a cherddoriaeth wych.