Skip to main content
Buffy the Vampire - Once More With Feeling!

Buffy the Vampire - Once More With Feeling!

27 Mawrth 2027
Cabaret
Buffy the Vampire - Once More With Feeling!
27 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

Oed: 18+

Rhybuddion:

Iaith gref posibl a fflachio posibl (gan gynnwys goleuadau strob)

Buffy the Vampire - Once More With Feeling!

Mae dau glown drag mwyaf dramatig gwledydd Prydain, Gigi a Crusty, yn ôl – a’r tro yma, maen nhw’n dod â MWY O DEIMLAD i’w sioe gerdd hollol gwiar ac anhrefnus, sy’n seiliedig ar y bennod gerddorol eiconig o Buffy the Vampire Slayer: Once More, With Feeling.

Ydyn, maen nhw’n llythrennol yn perfformio pob rhan.
Ydy, mae hi’n hynod gwiar.
Ac, wrth gwrs, byddwch chi am ymuno yn y canu.

Dychmygwch sioe West End yn cwrdd ag Anhrefn Bar Hoyw. Gallwch ddisgwyl cyd-ganu gwirion! Newidiadau gwisgoedd amheus! Cwis Buffy gwallgof! Ac ychydig o gymorth gennych chi, Y Gynulleidfa™!

Ar ôl llwyddiant ysgubol dros bedair blynedd, rydyn ni’n atgyfodi ein hail-ddychmygiad gwallgof o bennod gerddorol Buffy – unwaith eto! A’r tro yma, rydyn ni ar daith!

Rydyn ni’n atgyfodi Once More, With Feeling… ond y tro yma, gyda MWY O DEIMLAD nag erioed o’r blaen!

Oherwydd, yn ôl y bennod enwog: ‘Mae Gen i Ddamcaniaeth’ na allwch chi fod â gormod o Buffy yn eich bywyd. Felly peidiwch â dal ’nôl a byddwch yn barod i ‘Gerdded drwy Dân’, oherwydd unwaith y byddwch chi wedi anghofio am ‘Y Tocyn Parcio’, bydd modd i chi ‘Orffwyso mewn Hedd’ gyda ni.

Rydych chi’n siŵr o ‘Gael eich Swyno’ gyda ni, felly welwn ni chi yn Cabaret ar 27 Mawrth!


Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.