Cabaret Bingo
Amser dechrau a hyd:
8pm, 7pm Doors
Oed:
18+
Rhybuddion:
Nudity and possible strong language
Galwch eich criw at ei gilydd a chadwch eich llygaid ar eich papur mewn noson arbennig o hwyl!
Hoffi bingo? Caru cabaret? Yna Cabaret Bingo yw’r lle i fod!
Paratowch ar gyfer noson drydanol yn llawn glam, gemau a pherfformiadau syfrdanol. Bydd ein cyflwynydd campus yn eich tywys drwy ddwy rownd gyffrous o bingo, lle bydd enillwyr y llinell yn rheoli'r sioe – drwy gyhoeddi'r perfformiwr cabaret penigamp nesaf fydd yn dod i'r llwyfan.
Gyda gwobrau i’w hennill a phob math o sypreisys, bydd hon yn noson o bingo na fyddwch chi erioed wedi gweld ei thebyg. Peidiwch â cholli allan… archebwch eich tocynnau NAWR!
Gyda'n seren ddrag breswyl Venus Flytrap wrth y llyw, a chyfraniadau gan berfformwyr lleol chwedlonol a gwesteion arbennig.
Cynhyrchwyd gyda balchder gan Lili Del Fflur o gwmni 'Del Fflur Productions'
Dros 18 oed yn unig.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.