Skip to main content

CABARET PROVOCATEUR

19 Mawrth 2027
Cabaret
CABARET PROVOCATEUR
19 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Iaith gref, goleuadau fflach/strobe, tarannau uchel a noethni.

CABARET PROVOCATEUR

Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy yn llawn glits, glamor ac adloniant ysblennydd!

Gyda chast arbennig o fyd cabaret Llundain a thu hwnt, gallwch chi ddisgwyl perfformiadau polyn anhygoel, actau syrcas syfrdanol, bwrlésg bendigedig a drag disglair.

Dyma’r sioe amrywiaeth orau, yn llawn doniau anhygoel, gwisgoedd disglair, eiliadau doniol a digonedd o syrpreisys digywilydd. O’r syfrdanol i’r pryfoclyd, mae gyda ni rywbeth i bawb!

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.