Skip to main content

Camille O'Sullivan - Loveletter

3 – 5 Rhagfyr 2026
Stiwdio Weston
Camille O'Sullivan - Loveletter
3 – 5 Rhagfyr 2026, Stiwdio Weston

Amser dechrau a hyd:

8:30pm, doors 8pm

Oed:

16+

Camille O'Sullivan - Loveletter

Llythyr cariad ar ffurf cân. Mae Camille yn dathlu ei ffrind annwyl Shane MacGowan, Sinéad O’Connor, David Bowie, Radiohead, Brel, Nick Cave a mwy. Fel cameleon ar y llwyfan, mae gan bob cân gymeriad gwahanol gyda stori i’w hadrodd.

Mae Camille, gyda’i chydweithredwr hirdymor Feargal Murray, wedi creu sioe agos-atoch, dwymgalon gydag ychydig o anhrefn llawen a gwallgof wrth i’w bywyd ymddatod, gan gyfleu’r ymateb onest i’n hanwyliaid sydd wedi ein gadael ni.

Wedi’i phleidleisio fel un o’r 25 perfformiad gorau erioed ar Later with Jools BBC gan y Daily Telegraph a Brenhines Gŵyl Caeredin gan y BBC, teithiodd Camille gyda The Pogues, bu’n westai yn RFH Meltdown Yoko Ono a Richard Thompson ac yn seren wreiddiol La Clique, a enillodd wobr Olivier. Yn flaenorol, bu’n bensaer a pheintiwr arobryn. Cafodd Camille ei geni yn Llundain i Ffrances a thad Gwyddelig/Seisnig. Cafodd ei magu mewn pentref yn Cork, Iwerddon, yn gwrando ar gasgliad cerddoriaeth eclectig ei rhieni a’i chwiorydd, sydd wedi ei gwneud hi’n ddehonglydd unigryw.

Mae’r gantores arobryn wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i pherfformiadau pum seren sy’n gwerthu allan, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney, Royal Festival Hall a’r Roundhouse. Enillodd wobr Herald Angel am ei pherfformiad unigol gyda’r RSC o The Rape of Lucrece ac yn ddiweddar enillodd wobr Architectural RIAI 2025.

Tywyll, rhywiol, doniol a chyfareddol, mae Camille yn trawsnewid pob cân mae hi’n perfformio yn brofiad dwys, emosiynol a theatraidd. Gallwch chi ddisgwyl llawenydd ac angerdd pur.

This is rated 5 out of 5 stars

"When she sings it's as though her breath is soaked in paraffin - one spark, and the whole room would ignite"

Daily Telegraph
This is rated 5 out of 5 stars

“A courageous and singular performer, Camille is one of the most gifted interpreters of narrative songs yet to appear”

Irish Times

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Rapper in white and partner in dark stand on stage steps under purple spotlight with graffiti backdrop
Wedi'i gyflwyno yn

Stiwdio Weston

Lleoliad bach yw Stiwdio Weston, sy'n berffaith er mwyn cael teimlad agos-atoch a phersonol yn ystod cynyrchiadau bach, gwaith theatr o fri, a cherddoriaeth wych.