Skip to main content

Cardiff Cabaret Club - Frisky February

13 Chwefror 2027
Cabaret
Cardiff Cabaret Club - Frisky February
13 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, doors 7pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Nudity and possible bad language

Cardiff Cabaret Club - Frisky February

Dathlwch San Ffolant gyda noson o fwrlésg lle byddwch chi’n syrthio dros eich pen a’ch clustiau mewn cariad.

Wedi’i gyflwyno gan yr atom cryf ei hun, FooFoo LaBelle.

Dewch i golli eich pen dros y sêr bwrlésg Mysti Vine, Sandy Sure ac Eris Noir.

Syrthiwch mewn cariad â’r perfformwyr drag Tristan Treble a Wayne King a dawnswyr annwyl Clwb Cabaret Caerdydd! 

Frisky February yw’r cyntaf mewn cyfres o bedair sioe dymhorol yn 2027 wedi’u cyflwyno gan Glwb Cabaret Caerdydd, gyda sêr bwrlésg a cabaret ochr yn ochr â’r doniau Cymreig mwyaf cyffrous. Archebwch rywbeth y byddwch chi’n edrych ymlaen ato drwy’r flwyddyn.

Mae Clwb Cabaret Caerdydd wedi ymgartrefu yn y ddinas ers 18 mlynedd. Wedi’i redeg gan FooFoo LaBelle, sy’n aml yn cael ei disgrifio fel mam bwrlésg Cymreig, mae CCC wedi cynhyrchu cannoedd o sioeau bwrlésg sydd wedi gwerthu pob tocyn yn y brifddinas. Mae sioeau Clwb Cabaret Caerdydd yn casglu’r bwrlésg gorau o bob cwr o’r DU ac yn eu cyflwyno nhw i lwyfannau Cymru ochr yn ochr â sêr lleol.

Mae FooFoo hefyd yn cynnal dosbarthiadau bwrlésg ledled y ddinas i bobl o bob rhywedd, oed (dros 18) a math o gyrff i ddysgu dawnsio. 

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.