Skip to main content

Deeva D

20 Tachwedd 2026
Cabaret
Deeva D
20 Tachwedd 2026, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

Drysau am 7pm, Sioe am 8pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Iaith gref posibl a fflachio posibl (gan gynnwys goleuadau strob)

Deeva D

Mae’r seren cabaret rhyngwladol Deeva D yn eich gwahodd i’w faes chwarae personol yn llawn cyffro, nwydusrwydd a chomedi camp!

Yng nghwmni ei hoff bleserau o bob rhan o’r DU, mae Deeva D’s Delights yn rifiw cabaret sy’n eich annog i fod yn ddrwg, neis a bob amser ychydig bach yn sbeislyd”

Yn ymuno â’r lein-yp mae’r sêr rhyngwladol Lena Lenman, Freida Slaves, Lili Del Fflur, Wan Long Kok, Bonnie Darkhoe a Blu La Loux. Gallwch chi ddisgwyl lleisiau teimladwy, bwrlésg trydanol, chwerthin mawr a strip-bryfocio fel na welsoch erioed o’r blaen.

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.