Skip to main content

Deeva Delights

26 Mawrth 2027
Cabaret
Deeva Delights
26 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Ieithyddol gryf, golau llachar/strobo posibl, sŵn bras a noethni.

Deeva Delights

Mae Deeva’s Delights yn dychwelyd i lwyfan eiconig Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn y gwanwyn, gan ddod â chymysgedd o artistiaid cabaret arobryn, sêr lleol a noson yn llawn drygioni – i gyd o dan un to.

Yn ymuno â ni ym mis Mawrth yw’r arobryn Kheski Kobler, yn syth o’u rhediad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ac yn ail yn MX Burlesque UK 2026, y Stiletto Prince rhywiol a nwydus, arloeswr Brenin Drag y DU a morwr tywydd da Sigi Moonlight, ac wrth gwrs eich hoff gyflwynydd digywilydd Deeva D, a fydd yn achosi anhrefn yng Nghaerdydd unwaith eto!

Bydd mwy o actau yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ond dyw hon byth yn noson i’w cholli.

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.