Eurovision: Your Decision
Amser dechrau a hyd:
8pm, drysau 7pm
Oed:
18+
Rhybuddion:
Iaith drwg a goleuadau strôb yn fflachio
Ar ôl rhediadau o werthu pob tocyn yn Llundain, Brighton a Lerpwl, mae EUROVISION YOUR DECISION, a enwebwyd yng Ngwobrau Wilma’r West End, yn ôl yn 2027.
Mae’r llythyr cariad yma i’r Eurovision, sy’n rhan parodi, rhan cabare, rhan breuddwyd Ewro-Bop penfeddwol, yn sicr o gynnig noson allan hwyliog i chi – mae ganddo bethau rydyn ni’n eu caru (ac yn hoffi eu casáu) am yr Eurovisions – y gwisgoedd gwych, y dawnsfeydd anhygoel, yr acenion anghyfarwydd a’r anawsterau technegol cwbl ragweladwy.
Mae’r sioe pum seren yma’n cynnwys perfformiadau byw o ganeuon yr Eurovision o’r 70 mlynedd diwethaf. Mae’n talu teyrnged i uchafbwyntiau, isafbwyntiau a dewisiadau ffasiwn amheus y gystadleuaeth ogoneddus yma.
O ABBA i Loreen, o Bucks Fizz i Nemo a phopeth rhyngddyn nhw!
Ymunwch â ni ar gyfer taith Eurovision Your Decision 2027 wrth i chi weld 14 o berfformwyr mwyaf eiconig (ac enwog) Eurovision wedi’u hail-greu’n gariadus yn fyw ar y llwyfan, ac unwaith y bydd y perfformiadau wedi digwydd, gallwch bleidleisio dros eich hoff berfformiad i gael ei goroni’n enillydd Eurovision Your Decision 2027!
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.