Skip to main content

ICONS

18 Chwefror 2027
Cabaret
ICONS
18 Chwefror 2027, Cabaret

Oed:

18+


ICONS

Rhai o'r doniau cudd mwyaf ym myd cabaret lleisiol. Cymysgedd cyffrous o ddau lais sy'n creu un sain rhyfeddol.

Ymunwch ag Indigo May a'u band, o dan arweiniad Nigel Hart, i ddathlu cantorion a chyfansoddwyr caneuon eiconig yr holl ffordd o'r 70au hyd heddiw. Gallwch ddisgwyl caneuon adnabyddus a pherlau cudd gan artistiaid fel Simon & Garfunkel, Snow Patrol, Celine Dion a llawer mwy. Indigo May sy'n dod â'u pair o arddulliau cerddorol i Cabaret.

Cwrddodd Meinir a Julie tra roedden nhw'n teithio'r byd fel aelodau o'r grŵp a cappella chwedlonol sydd wedi ennill gowbrau Grammy, The Swingle Singers. Maen nhw bellach yn teithio fel Indigo May ac wedi diddanu gwesteion ar fwrdd mordeithiau Cunard, P&O, SAGA, Regent, Princess, MSC, Oceania ac Explora Journeys.

Deuawd na ddylid ei methu!

"Waw, jyst waw! Am ddeuawd, am sain, am dderbyniad!

Doedd yna ddim llygad sych yn y tŷ ar ôl eu fersiwn nhw o Both Sides Now"

-Cylchlythyr Côr Meibion y Bontfaen

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.