Skip to main content

LEE PEART: IT’S NOT YOU, IT’S LEE

14 Mai 2027
Cabaret
Man in a black suit and white shirt, resting his hand by his face, with a floral lapel pin against green background
LEE PEART: IT’S NOT YOU, IT’S LEE
14 Mai 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Posibl iaith gref

LEE PEART: IT’S NOT YOU, IT’S LEE

Ar ôl blynyddoedd o gynhesu'r gynulleidfa ar gyfer rhai o’r rhaglenni teledu mwyaf, mae Lee Peart yn camu i ganol y llwyfan ac yn cipio’r sylw iddo’i hunan, wrth iddo ddod â’i daith standyp gyntaf i ganolfannau o gwmpas gwledydd Prydain. 

O dyfu i fyny yn Grimsby a cheisio llywio byd anrhagweladwy teledu, i gyd-gyflwyno'r podlediad poblogaidd Bottoms Up, mae Lee yn rhannu'r eiliadau sydd wedi'i siapio, gyda chynhesrwydd heintus, arsylwadau craff a hiwmor diymhongar gwych. 

 

Gallwch ddisgwyl straeon am deulu, gwaith, perthnasoedd, uchelgais a realiti anhrefnus ceisio cadw'r cyfan ynghyd. Dyma sioe am yr uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau, y methiannau dramatig, a'r grefft o godi'n ôl ar eich traed a chario ymlaen, a chymryd cyfrifoldeb llawn am y cyfan. Achos yn y pen draw… nid ti yw e, Lee yw e. 

Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cabaret House Rules

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.