Skip to main content

LITTLEWANDER: CARDIFF COMEDY CLUB

25 Mawrth 2027
Cabaret
LITTLEWANDER: CARDIFF COMEDY CLUB
25 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Iaith gref

LITTLEWANDER: CARDIFF COMEDY CLUB

Mae Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â’r curadwyr comedi Little Wander (y meddyliau tu ôl i Ŵyl Gomedi Machynlleth) i gyflwyno’r stand-yp rhyfedd, syfrdanol a hynod ddoniol gorau.

Gallwch chi ddisgwyl straeon swreal, sylwadau siarp a’r math o gomedi sy’n gwneud i chi chwerthin yn gyntaf a gofyn “aros, beth sydd newydd ddigwydd?” wedyn.

Y nodweddion nos: 

Frank Foucault

Frank Foucault yw persona llwyfan disglair Luke Smith – digrifwr, awdur, cerddor a chyfansoddwr sy’n adnabyddus am ei waith dyfeisgar, chwareus a swreal sydd wedi cael ei ganmol gan feirniaid ac wedi’i gynnwys ar deledu a radio’r BBC.

Rachel Baker

David Alfie Ward (MC)

Digrifwr a gafodd ei eni a’i fagu yn nwyrain Llundain yw David Alfie Ward. Dechreuodd ei yrfa stand-yp mewn bar bach yn ei dref enedigol, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i chwarae yn rhai o glybiau mwyaf gwledydd Prydain, tir mawr Ewrop, De Affrica, De-ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Mae wedi ymddangos ar TalkSPORT, Capital FM, ITV, Metro, BBC 5live, BT Sport a LadBible yng ngwledydd Prydain. Mae wedi cyflwyno’r rhaglen Stand Up Sketch Show ac wedi cynhesu cynulleidfa stiwdio deledu ar gyfer Mo Gilligan, Harry a Jamie Redknapp yn ogystal ag agor i Dane Baptiste, Darren Harriot a Michelle Wolf.

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.