“OH SISTER MARY”
Amser dechrau a hyd:
8pm, 7pm drysau
Oed:
18+
Rhybuddion:
Iaith gref
Oh Sister Mary
SISTER MARY
YN
“OH SISTER MARY”
Cabare comedi cerddorol
Mae Lleian Gabaret Wreiddiol Soho yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yng Nghymru!!!
Yn dilyn tymor o haf yn Efrog Newydd a Provincetown, ymunwch â Chwaer Mary am sioe newydd llawn hwyl a chanu, comedi, ffolineb, caneuon sioe gerdd, ambell i beth annisgwyl, gêm neu ddwy, ac o bosib dos bach o gyfraniad gan y gynulleidfa.
Does dim gweddïo yma, nid dyna’r math o leian yw hi.
Ar ôl cael ei darganfod ar risiau Eglwys Sant Pedr Urdd y Chwiorydd Coll yn Soho, mae hi’n breuddwydio mai’r seren theatr gerdd, Elaine Paige, yw ei mam? Ond ai ffantasi neu ffaith yw hyn? Gadewch iddi ddweud y cyfan, ond a wnewch chi gyffesu eich pechodau i’r lleian sioe wreiddiol?
Iechyd Da!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.