Send In The Clowns
Amser dechrau a hyd:
8pm, drysau 7pm
Oed:
18+
Rhybuddion:
Iaith gref, goleuadau fflach/strobe, tarannau uchel a noethni.
Y tro yma mae Send in the Clows yn ymgymryd â’u her mwyaf hyd yma… CELF!
Ie, o’r diwedd mae’n amser i’r clowniaid gwrdd â’u cydenw ac ymgymryd â ‘Shakespeare Theatr Gerdd’, y dyn, y chwedl, y seren – Stephen Sondheim! Gallwch chi ddisgwyl dathliad/llofruddiad o gyfansoddwr gorau theatr gerdd (sori, Andrew) wrth i’r clowniaid gwaith Sondheim.
Ymunwch â’r cyflwynydd, y seren cabaret sydd â llais pwerus anhygoel Fatt Butcher ochr yn ochr â lein-yp arbennig o ddoniau drag a cabaret gorau canolbarth Lloegr gan gynnwys Dahliah Rivers, Blü Romantic ac Alanna Boden. Gallwch chi ddisgwyl fersiynau unigryw o ffefrynnau o Company, Sweeney Todd, Into The Woods, A Little Night Music, Gypsy, West Side Story a phethau anhysbys rydyn ni’n ei tynnu allan o gefn y soffa cerddorol, wedi’u llygru’n llwyr (ddim yn addas i bobl sy’n cael eu tramgwyddo’n hawdd).
Yn dychwelyd gyda’u 10fed sioe wreiddiol (fwy neu lai) mae Send in the Clowns: Queeny Todd! yn addo sioe aflafar fythgofiadwy yn llawn comedi cywilyddus, lleisiau byw gwefreiddiol, cabaret camp a chyd-ganu. Mae pob sioe yn gorffen gyda ‘sioe gerdd ugain munud’ na ddylech ei cholli, fersiwn drag o sioe gerdd enwog wedi’i hymarfer mewn dau ddiwrnod a’i pherfformio mewn 20 munud (fwy neu lai) – bydd anhrefn yn sicr!
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.