The Noise Next Door
Amser dechrau a hyd:
8pm, doors 7pm
Oed:
18+
Rhybuddion:
Possible Bad Language
Doniolwch wedi'i greu yn y fan a'r lle. Dim gimics, dim triciau – dim ond doniau byrfyfyr cyflymaf a doniolaf gwledydd Prydain yn cyflwyno sioe fydd yn gwneud i chi chwerthin i eithafion.
Mae'r fformiwla'n syml – 1) Rydych chi'n awgrymu UNRHYW BETH. 2) Mae The Noise Next Door yn troi eich awgrym yn gampwaith comedi bychan. 3) Chwerthin. 4) Ailadrodd.
Mae The Noise Next Door yn griw chwedlonol sydd wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Cyrion Caeredin gan werthu pob tocyn yno ddeuddeg gwaith. Maen nhw wedi rhyfeddu cynulleidfaoedd ar BBC One, ITV1, Comedy Central, ac mewn clybiau comedi a theatrau ledled y byd. Peidiwch â methu'ch cyfle i'w gweld nhw'n fyw.
Iechyd Da!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Cabaret House Rules
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.