Skip to main content

Vox Collective: Carpenters

18 Mawrth 2027
Cabaret
Vox Collective: Carpenters
18 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

Vox Collective: Carpenters

Yn dathlu eu 10 mlwyddiant yn 2027, mae VOX Collective wrth eu bodd i ddychwelyd i Gymru am yr ail dro gyda’u sioe fyw wych, Top of the World – The Best of the Carpenters.

P’un a ydych chi’n dychwelyd ar gyfer encore neu’n profi’r sioe am y tro cyntaf erioed, dewch i ddathlu cerddoriaeth ddiamser y ddeuawd brawd a chwaer gyda pherfformiad band byw syfrdanol.

Mwynhewch noson dwymgalon a phersonol sy’n cynnwys llais cain Gemma Cox, wrth i VOX Collective ailymweld â chaneuon gorau’r Carpenters – gan gynnwys Superstar, Rainy Days and Mondays, We’ve Only Just Begun, Yesterday Once More, (They Long to Be) Close to You a llawer mwy.

Gyda threfniannau byw pwrpasol, harmonïau hyfryd a sylw ffyddlon at sain nodweddiadol y Carpenters, mae’r perfformiad yma’n addo noson yn llawn hiraeth pur a phrydferthwch cerddorol.

Y Band:

Gemma Cox – Llais

Katrín Ýr – Llais cefndir

Sam Wilson – Allweddellau/Llais cefndir

Jon Cox – Bas/Llais cefndir

Ollie Sears – Drymiau/Llais cefndir

Dion Rushe – Gitâr

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.