Skip to main content

VOX Collective yn cyflwyno: Noson o Adele

11 Chwefror 2027
Cabaret
VOX Collective yn cyflwyno: Noson o Adele
11 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm (Drysau 7pm)

Oed:

18+

VOX Collective yn cyflwyno: Noson o Adele

Deg mlynedd ar ôl ein sioe gyntaf erioed, mae VOX Collective yn nodi carreg filltir yn y ffordd orau bosib, drwy ddychwelyd i leoliad rydyn ni’n dwli arno. Ar ôl rhediad gwych o sioeau yn 2026, allwn ni ddim aros i fod nôl!

Mae ein teyrnged i Adele yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda’n band byw llawn. Gallwch chi ddisgwyl y sioeau rydych chi’n eu hadnabod yn dda o 19, 21 a 25, yn ogystal â detholiad o draciau o’i pherfformiadau byw, i gyd wedi’u cyflwyno gyda’r angerdd a’r ymgysylltu sy’n gwneud VOX Collective yn adnabyddus.

Noson fythgofiadwy, ac un arbennig iawn i ni. Dewch i’n helpu ni i ddathlu!

Iechyd Da!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cabaret House Rules

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.