Yellow Brick Road
Amser dechrau a hyd:
7pm doors 6pm
Oed:
18+
Dewch i gael eich cludo gan ganeuon mwyaf poblogaidd Elton John wedi’u harddangos yn eu prydferthwch naturiol, gyda’r arbenigwr adnabyddus ar Elton, Sam Wilson.
Yn y cynhyrchiad newydd sbon yma, mae Sam yn dod â chyfansoddiadau rhyfeddol y Rocket Man yn fyw mewn noson wedi’i goleuo gan ganhwyllau. Gallwch chi ddisgwyl gwisgoedd gwych wedi’u gwneud â llaw, straeon cyfareddol sy’n mynd tu ôl i lenni’r llwyfan a dawn gerddorol o safon fyd-eang. Fodd bynnag, mae’r caneuon diamser rydyn ni gyd yn eu hadnabod a’u mwynhau yw uchafbwynt y noson. Canwch i glasuron o dros y blynyddoedd fel Your Song, Bennie and The Jets a Candle in the Wind. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn darganfod eich hoff gân newydd gan Elton!
Mae’r syniad ar gyfer y cyngerdd hudolus yma wedi cael ei ysbrydoli gan rai o gigiau unigol mwy prin Elton, fel Edinburgh Playhouse 1976, yn ogystal ag ymddangosiad Sam ar This Morning ar ITV, lle chwaraeodd Tiny Dancer yn fyw.
Mae Sam wedi bod yn perfformio caneuon Elton mewn cannoedd o theatrau, gwyliau a lleoliadau ers 7 mlynedd, a dechreuodd gynnwys fersiynau o’i ganeuon yn ei fand coleg! Efallai eich bod chi wedi clywed ei lais ar America’s Got Talent, ac mae wedi cael ei ffrydio dros 10 miliwn o weithiau ar Spotify.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.