Am ddechrau ysgrifennu ar gyfer theatr?
Yn y cwrs rhagarweiniol chwe wythnos yma, byddwn ni’n edrych ar dirwedd bresennol theatr ac yn archwilio amrywiaeth o ddulliau o ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Drwy waith ysgrifennu ymarferol, byddwn ni’n archwilio strwythur stori, datblygu cymeriadau a naratif, monologau a mwy.
Mae Ysgrifennu ar gyfer Theatr, sydd wedi’i gynllunio fel ystafell ysgrifennu gymdeithasol lle caiff pawb eu hannog i ddod â’u syniadau, diddordebau a safbwyntiau gwahanol, yn gwrs lle mae croeso bob amser i ofyn cwestiynau a chewch eich cefnogi i ddatblygu eich llais fel awdur.
P’un a ydych chi eisoes ar eich taith fel awdur, yn berson creadigol sydd heb archwilio ysgrifennu eto, neu’n chwilfrydig am beth y gall theatr ei gynnig, ymunwch â’r ystafell ysgrifennu!
PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?
Bydd hwyluswyr-awduron profiadol yn arwain y sesiynau yma.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.
PRYD MAE’R CWRS?
Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Lun rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 10 Mehefin i 15 Gorffennaf.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.