Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

Y Ffatri

30 – 31 Mai 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Radio Platfform: Hyfforddiant Porth {{::on_sale_date.label}} Y Ffatri MM/DD/YYYY 15 event-2212

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

30 – 31 Mai 2024

Y Ffatri

Hyfforddiant Radio Platfform dwys AM DDIM yn Y Ffatri, Porth! 

Ydych chi’n barod i ryddhau eich creadigrwydd a chreu argraff ar y byd radio a phodlediadau? Ymunwch â ni am gwrs hyfforddi dwys dau ddiwrnod i bobl 11–25 oed yng Nghwm Rhondda – ac mae AM DDIM! 

Darganfyddwch y grefft o greu rhaglenni radio a phodlediadau; dysgwch am yr amrywiaeth o gynnwys radio; meistrolwch y sgil o greu a dod o hyd i straeon newyddion cymhellol; ac uwchraddiwch eich recordiadau i safon broffesiynol. 

Byddwch chi’n cael profiad ymarferol o gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sy’n tanio eich brwdfrydedd. P’un a ydych chi wedi hen arfer â radio a phodlediadau neu’n rhoi cynnig ar y cyfrwng am y tro cyntaf, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i’ch grymuso a’ch ysbrydoli ar bob cam o’r ffordd, waeth beth yw lefel eich profiad. 

Cofiwch fod y cwrs dau ddiwrnod yma yn digwydd yn Y Ffatri, Porth, fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n gallu dod yn aelod o Radio Platfform a defnyddio ein stiwdios ym Mhorth a Chaerdydd. 

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma ar agor i bob lefel a gallu.

PRYD MAE’R CWRS?

Mae’r cwrs yn rhedeg am ddau ddiwrnod, rhwng 11am a 4pm ddydd Iau 30 Mai a dydd Gwener 31 Mai.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu dod i ddau ddiwrnod y cwrs.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni cysylltu os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Y Ffatri

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr

14 – 25 oed

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

Platfform

Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth

14 – 25 oed