Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Y 10 sioe orau i’w gweld yn 2023

Mwynhewch wledd o theatr eleni. Dyma’n rhestr o’r 10 orau ar gyfer 2023; o sioeau cerdd i ddawns, mae rhywbeth i bawb – o blant i oedolion.

Bugsy Malone

17 – 21 Ionawr 2023

Mae’r ffilm fyd-enwog bellach yn brofiad theatrig sy’n dod i’n llwyfan am y tro cyntaf erioed. Yn llawn caneuon bythgofiadwy megis My Name is Tallulah a Fat Sam’s Grand Slam, ymunwch â ni ar gyfer taith lawen i gyfnod y Gwahardd yn Efrog Newydd. Dinas sy’n llawn gangsteriaid, sioeferched a breuddwydwyr lle mae’r peis cwstard yn hedfan ac mae gang Dandy Dan wedi cael gafael ar y gwn ‘splurge’ newydd.

Dod o hyd i docynnau →

Matthew Bourne’s Sleeping Beauty

31 Ionawr – 4 Chwefror 2023

Lledaenwch damaid o hud a lledrith a chamwch i fyd o dylwyth teg a fampirod gyda sioe eiconig Matthew Bourne, Sleeping Beauty. Yn y sioe hynod boblogaidd yma, mae stori oesol da yn erbyn drwg yn cael ei throi ben i waered, gan greu stori serch uwch-naturiol sy’n sefyll yn gadarn ar draws y blynyddoedd. 

Dod o hyd i docynnau →

Opera Cenedlaethol Cymru: The Magic Flute

5, 11, 15, 16 + 17 Mawrth 2023

Rhowch gynnig ar opera gyda The Magic Flute, opera hudolus Mozart, sydd wedi’i gosod mewn byd dychmygol ac sy’n addas i bob oed. Gyda ffliwt hudol a chasgliad o glychau hud i’w amddiffyn, mae Tamino yn cychwyn ar ei daith i achub Pamina o afael swynwr drygionus. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn cymryd y stori dylwyth deg hudolus hon ac yn rhoi tro modern iddi.

Dod o hyd i docynnau →

Mother Goose

28 Mawrth – 1 Ebrill 2023

Daw Ian McKellen a John Bishop ynghyd i gyflwyno pantomeim doniol tu hwnt i’r teulu cyfan. Maen nhw’n rhedeg Lloches Anifeiliaid ar gyfer creaduriaid digartref ac yn byw bywyd buddiol mewn Debenhams gwag. Ond pan fydd gŵydd hudol yn cyrraedd, a fydd cyfoeth a chlod yn mynd yn drech na nhw?!

Dod o hyd i docynnau →

Jersey Boys

11 – 22 Ebrill 2023

Mae’r sioe gerdd arobryn hon yn mynd y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli and The Four Seasons, ac mae'n cynnwys eu holl ganeuon poblogaidd, gan gynnwys Big Girls Don’t Cry a Can’t Take My Eyes Off You. Dewch i ymuno â’r 30 miliwn o bobl sydd eisoes wedi cael eu cyfareddu gan y sioe yma sy'n ffenomenon ledled y byd. 

Dod o hyd i docynnau →

Charlie and the Chocolate Factory

3 – 20 Mai 2023

Does prin angen cyflwyniad i’r stori hon… Mynnwch Docyn Aur i weld y cynhyrchiad danteithiol newydd yma o’r sioe gerdd boblogaidd o’r West End a Broadway sy’n dilyn stori Charlie Bucket a’i daith i ffatri siocled ddirgel Willy Wonka.

Dod o hyd i docynnau →

The Ocean at the End of The Lane

30 Mai – 3 Mehefin 2023

Mae addasiad newydd sbon y National Theatre o lyfr poblogaidd Neil Gaiman ar ei ffordd i’n llwyfan, ac yn dod ag antur wefreiddiol o ffantasi, chwedloniaeth a chyfeillgarwch. Mae'n cyfuno hud a lledrith â’r cof mewn campwaith o adrodd stori sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith epig i blentyndod a oedd unwaith yn angof a’r tywyllwch sy’n llechu gerllaw.

Dod o hyd i docynnau →

Greatest Days

27 Mehefin – 1 Gorffennaf 2023

Sioe i’r rheini sydd wrth eu bodd â Take That. Mae Greatest Days yn adrodd stori dwymgalon grŵp o ffans Take That sy’n aduno 20 mlynedd yn ddiweddarach i weld y grŵp am un tro olaf. Mae’r sioe’n cynnwys 15 o brif ganeuon y grŵp, ac fe dorrodd recordiau swyddfa docynnau pan gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf.

Dod o hyd i docynnau →

Winnie The Pooh

3 – 5 Awst 2023

Dewch â’r teulu cyfan i fwynhau cymeriadau eiconig Disney Winnie the Pooh, Christopher Robin a’u ffrindiau gorau, yn yr addasiad llwyfan hyfryd hwn sy’n cynnwys pypedau maint go iawn. Yn addas i’r rheini dan 2 oed hefyd.

Dod o hyd i docynnau →

Six

8 – 12 Awst 2023

Mae’r sioe hynod boblogaidd yn ôl! O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII o’r diwedd yn gafael yn y meicroffon. Dyma nhw’n adrodd eu hanesion, gan gydblethu pum can mlynedd o dor-calon mewn dathliad 80-munud o bŵer merched yr 21ain ganrif. Efallai fod gan y breninesau lewys gwyrdd, ond mae eu lipstig yn goch gwrthryfelgar.

Dod o hyd i docynnau →