Ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen o 6 Mehefin. Darganfod mwy
Ar werth i Aelodau Ffrind a Ffrind+ o 8 Mehefin. Aelodaeth.
Ar werth i'r cyhoedd o 10 Mehefin.
O ddychymyg Neil Gaiman, awdur poblogaidd Coraline, Good Omens a The Sandman, daw addasiad llwyfan arwyddocaol newydd y National Theatre o The Ocean at the End of the Lane.
Mae’r antur wefreiddiol hon o ffantasi, chwedloniaeth a chyfeillgarwch, yn sioe wych pum seren sy’n cyfuno hud a lledrith gyda’r cof mewn campwaith o adrodd stori, sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith epig i blentyndod a oedd unwaith yn angof a’r tywyllwch sy’n llechu gerllaw.
“Hauntingly memorable, this knockout production is theatre at its best”
Wrth ddychwelyd i gartref ei blentyndod, mae dyn yn darganfod ei hun yn sefyll wrth ymyl pwll yr hen ffermdy yn Sussex ble roedd yn arfer chwarae. Mae’n cael ei gludo i’w ben-blwydd yn 12 oed pan honnodd ei ffrind anhygoel, Lettie nad pwll oedd hwn go iawn, ond cefnfor - lle mae popeth yn bosibl...
Gan blymio i fyd hudolus, mae eu bywydau yn dibynnu ar eu gallu i wrthsefyll grymoedd hynafol sy'n bygwth dinistrio popeth o'u cwmpas.
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys yr effeithiau canlynol; goleuadau strôb dwyster uchel, niwl a mwg, pyrotechneg, sain uchel a chyfnodau heb olau.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn ymdrin â themâu oedolion a allai beri gofid neu fraw i rai pobl. Mae hyn yn cynnwys disgrifiadau cynnar o ganlyniadau hunanladdiad a phedwar achlysur ble mae hunanladdiad yn cael ei drafod yn y ddrama. Caiff marwolaeth ei grybwyll o dro i dro yn ogystal â darlun o gam-drin gan rieni a marwolaeth. Os hoffech wybod mwy cyn archebu, cysylltwch gyda’r Tîm Cysylltiadau Cwsmer trwy ein gwasanaeth sgwrs ar y we.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw – Iau ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12 — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464. Ar gael Mawrth – Iau ar seddi penodol.
CYNIGION DAN 16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £4. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Mawrth – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.