Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch.
Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV (Linus Roache). Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.
Wedi’i ysgrifennu gan Gary Owen (Iphigenia in Splott), dramodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr Olivier, mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol.
Wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Michael Sheen a Steffan Donnelly o Theatr Cymru.
Cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre.
Cast
Rakie Ayola - Mared Ferch Dafydd
Lizzie Caitlin Bennett - Mali / Ensemble
Beau Bradfield - Twm / Ensemble
Emily Burnett - Catrin Ferch Owain
Brendan Charleson - Percy
Harrison Claxton - Ensemble
Ned Costello - Hal
Caitlin Drake - Ensemble
Martyn Ellis - Sir John Falstaff
Mirain Fflur - Ensemble
Gruffudd Glyn - Bryn
Orla Hardie - Ensemble
Ian Hughes - Baron Reginald Grey
Aisha-May Hunte - Ensemble
David Judge - Hotspur
Oliver Llewellyn-Jenkins - Ensemble
Richard Lynch - Rhys
Sophie Melville - Lois
Corey Mitchell - Ensemble
Jamie Morgan - Ensemble
Luke Rhodri - Ensemble
Linus Roache - Henry
Michael Sheen - Owain Glyndŵr
Joseph Tweedale - Ensemble
James Wilbraham - Mortimer
Tîm Creadigol
Dramodydd: Gary Owen
Cyd-Gyfarwyddwr: Michael Sheen
Cyd-Gyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Dylunydd Set: Jon Bausor
Dylunydd Gwisgoedd: Elin Steele
Cyfarwyddwr Symud: Anthony Matsena
Dylunydd Goleuo: Aideen Malone
Cyfansoddwr, Dylunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerddorol: Dyfan Jones
Dylunydd Fideo: Jack Phelan
Cyfarwyddwr Ymladd ac Agosatrwydd: Bethan Clark
Cyfarwyddwr Castio: Hannah Marie Williams
Hyfforddwr Tafodiaith: Nia Lynn
Cynhyrchydd Gweithredol: Kate Ferris
Rheolwr Cynhyrchu: Sarah Hemsley-Cole
Cyfarwyddwr Cyswllt: Hannah Noone
Dylunydd Set Cyswllt: Matt Hellyer
Dylunydd Goleuo Cyswllt: Cara Hood
Dylunydd Fideo Cynorthwyol: Livi Wilmore
Cyfarwyddwr Ymladd Cynorthwyol: Rebecca Wilson
Rhagddangosiadau: 5 - 10 Tachwedd 2026
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith gref, portreadau o drais a llofruddiaeth, gwaed, bygythiadau trais rhywiol ac artaith. Mae hefyd yn cynnwys synau uchel a thawch.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Iaith: Saesneg
Weithau bydd salwch, anafiadau a digwyddiadau tu hwnt i reolaeth y cynhyrchwyr yn codi, felly nid oes modd gwarantu y bydd artist penodol yn ymddangos.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol 5 Tachwedd (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Ymaelodi
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7, Maw – Iau (2 bris uchaf).
Dyddiad talu grwpiau: 1 Mehefin 2026. Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 (seddi penodol, Maw - Iau). Argaeledd cyfyngedig.
YSGOLION
£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol)
Ar gael Maw - Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy