Skip to main content
Cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre

Owain & Henry

Drama newydd gan Gary Owen | Gyda Michael Sheen
5 – 28 Tachwedd 2026
Theatr Donald Gordon
Owain & Henry
5 – 28 Tachwedd 2026, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw – Sad, 7.30pm

Iau + Sad, 2.30pm

Act 1 - 1 awr 22 munud

Egwyl - 20 munud

Act 2 - 1 awr 15 munud

Oed:

14+ (dim plant dan 2 oed) 

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion:

Mae'r cynhyrchiad yma'n cynnwys iaith gref, portreadau o drais, llofruddiaeth a dienyddiadau, gwaed a bygythiadau trais rhywiol ac artaith. Mae hefyd yn cynnwys goleuadau strôb, synau uchel a thawch.

Owain & Henry

Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch. 

Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV. Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.

Wedi’i ysgrifennu gan Gary Owen (Iphigenia in Splott), dramodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr Olivier, mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol. 

Wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Michael Sheen a Steffan Donnelly o Theatr Cymru. 

Cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre.

Gwyliwch y rhaglun

Gwyliwch y rhaglun

Michael Sheen fel Owain Glyndŵr

Cast

Rakie Ayola

Mared Ferch Dafydd

Lizzie Caitlin Bennett

Mali / Ensemble

Beau Bradfield

Twm / Ensemble

Emily Burnett

Catrin Ferch Owain

Brendan Charleson

Percy

Harrison Claxton

Ensemble

Ned Costello

Hal

Caitlin Drake

Ensemble

Sion Tudor Owen

Sir John Falstaff

Mirain Fflur

Ensemble

Gruffydd Glyn

Bryn

Orla Hardie

Ensemble

Ian Hughes

Baron Reginald Grey

Aisha-May Hunte

Ensemble

David Judge

Hotspur

Oliver Llewellyn-Jenkins

Ensemble

Richard Lynch

Rhys

Sophie Melville

Lois

Corey Mitchell

Ensemble

Jamie Morgan

Ensemble

Luke Rhodri

Ensemble

Nigel Barrett

Henry

Michael Sheen

Owain Glyndŵr

Joseph Tweedale

Ensemble

James Wilbraham

Mortimer

Tîm Creadigol

Gary Owen

Dramodydd

Michael Sheen

Cyd-Gyfarwyddwr

Steffan Donnelly

Cyd-Gyfarwyddwr

Anthony Matsena

Cyfarwyddwr Symud

Jon Bausor

Dylunydd Set

Elin Steele

Dylunydd Gwisgoedd

Aideen Malone

Dylunydd Goleuo

Dyfan Jones

Cyfansoddwr, Dylunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerddorol

Jack Phelan

Dylunydd Fideo

Ruth Cooper-Brown

Cyfarwyddwr Ymladd ac Agosatrwydd

Hannah Marie Williams

Cyfarwyddwr Castio

Nia Lynn

Hyfforddwr Tafodiaith

Kate Ferris

Cynhyrchydd Gweithredol

Sarah Hemsley-Cole

Rheolwr Cynhyrchu

Hannah Noone

Cyfarwyddwr Cyswllt

Matt Hellyer

Dylunydd Set Cyswllt

Cara Hood

Dylunydd Goleuo Cyswllt

Livi Wilmore

Dylunydd Fideo Cynorthwyol

Rebecca Wilson

Cyfarwyddwr Ymladd Cynorthwyol

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol 5 Tachwedd (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Ymaelodi.


GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7, Maw – Iau (2 bris uchaf). 

Dyddiad talu grwpiau: 1 Mehefin 2026. Trefnu ymweliad grŵp.


16-30

Gostyngiad o £8 (seddi penodol, Maw - Iau). Argaeledd cyfyngedig.

YSGOLION

£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol)

Ar gael Maw - Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.

 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.