Paranormal Activity
Amser dechrau a hyd:
Maw, Mer + Gwe 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm, 7.30pm
Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
Oed:
15+ (dim plant o dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion:
Goleuadau sy'n fflachio/strôb, iaith gref, a chleciau uchel posib.
FFENOMENON RHYNGWLADOL Y WEST END A WERTHODD ALLAN, YN SYTH O LUNDAIN GYDAG EFFEITHIAU ARBENNIG NEWYDD SBON
Mae James a Lou yn symud o Chicago i Lundain i osgoi eu gorffennol, ond maen nhw'n darganfod yn fuan nad llefydd sy'n llawn bwganod, ond pobl...
Wedi’i hysbrydoli gan y gyfres ffilmiau eiconig ac arswydus, mae Paranormal Activity yn stori newydd yn fyw ar y llwyfan.
Yn serennu yn y cynhyrchiad iasol mae James Bye (2:22 A Ghost Story, Eastenders) fel James, Hannah Sinclair Robinson (The Play That Goes Wrong, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time) fel Lou, Jo Castleton (War Horse) fel Etheline Cotgrave a Caroline Faber (Network, The Heiress) fel Carolanne.
Nawr yn mynd ar ei thaith gyntaf o’r DU ac Iwerddon ar ôl rhediad estynedig a werthodd allan yn Llundain, mae’r cynhyrchiad cyffrous yma yn addo eich cadw chi ar flaen eich seddi o’r dechrau i’r diwedd.
Byddwch yn ddewr…
4 llun
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Gwe). Dyddiad talu: 25 Ion 2027. Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (argaeledd cyfyngedig), Maw – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Book early to ensure the best choice of seats. We regularly monitor and adjust ticket prices to optimise income and to ensure a wide range of price options where possible. Prices are subject to change. Read more.
Theatr Donald Gordon
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.