Skip to main content

Million Dollar Quartet

26 – 30 Ionawr 2027
Theatr Donald Gordon
Million Dollar Quartet
26 – 30 Ionawr 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw – Sad, 7.30pm

Mer, Iau, Sad, 2.30pm

Tua 2 awr a 5 munud yn cynnwys un egwyl.

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion:

Iaith gref posibl.

Million Dollar Quartet

Ar ôl dychwelyd i Lundain, mae Million Dollar Quarter, sioe gerdd lwyddiannus y West End a Broadway, yn mynd ar daith!

Ar noson 4 Rhagfyr, 1956, aeth pedwar eicon cerddorol i mewn i stiwdio recordio ym Memphis a gwneud hanes cerddorol. Daeth Johnny Cash, Jerry Lee Lewis, Carl Perkins ac Elvis Presley ynghyd drwy lwc pur ar gyfer sesiwn jamio a fyddai’n llunio llwybr roc a rôl. Nawr, 70 mlynedd ar ôl y digwyddiad pwysig hwnnw, dewch i ddathlu’r noson y daeth y Million Dollar Quartet at ei gilydd a newid cerddoriaeth am byth.

Gyda dros 20 o ganeuon llwyddiannus yn cael eu perfformio ar y llwyfan gan gynnwys: Blue Suede Shoes, Walk The Line, Hound Dog, Great Balls of Fire a llawer mwy. Profwch y digwyddiad unwaith mewn oes hwnnw, mewn sioe gerdd wefreiddiol a chafodd ei henwebu am 3 gwobr Tony lle mae cystadlaethau’n cynnau, cyfeillgarwch yn cael ei brofi a hanes roc a rôl yn cael ei greu.

Gyda’r seren llwyfan a sgrin Darren Day (Hollyoaks, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat) fel Sam Phillips, y cynhyrchydd gweledigaethol a greodd sain roc a rôl, ochr yn ochr â chast syfrdanol a band byw, peidiwch â cholli’r dathliad bywiog yma o bedwar artist hanesyddol.

Archebwch nawr ar gyfer y sesiwn jamio roc a rôl orau mewn hanes!

Gwyliwch y rhaglun

Gwyliwch y rhaglun

AELODAU

Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar Maw–Gwe perfformiadau 7.30pm (gan gynnwys y noson agoriadol)

Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar Mer–Gwe perfformiadau 7.30pm (ac eithrio’r noson agoriadol).

Ymaelodi.


GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4, Maw–Gwe perfformiadau 7.30pm (seddi penodol).

Trefnu ymweliad grŵp.


16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (Maw–Gwe perfformiadau 7.30pm)


Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.