Skip to main content

Mamma Mia!

30 Tachwedd 2026 – 5 Rhagfyr 2026
Theatr Donald Gordon
Bride in white dress smiling, holding a bouquet of white and green flowers against a light blue background
Mamma Mia!
30 Tachwedd 2026 – 5 Rhagfyr 2026, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Tua 2 awr 35 munud (yn cynnwys un egwyl)

Oed:

8+ (dim plant o dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Mamma Mia!

Ymunwch â ni ar gyfer MAMMA MIA! a mwynhewch y tonig gorau posib ar ffurf sioe gerdd fwyaf heulog a thwymgalon y byd yng Nghaerdydd o 30 Tachwedd am un wythnos yn unig!

Wedi’i gosod ym mharadwys ynys Roegaidd, caiff stori am gariad, cyfeillgarwch a hunaniaeth ei hadrodd yn gywrain drwy ganeuon oesol ABBA.

Mae ymdrechion Sophie i ddod o hyd i’w thad anhysbys yn dod â’i mam wyneb yn wyneb â thri dyn o’i gorffennol rhamantus pell, ar drothwy priodas na fydd unrhyw un yn anghofio!

Mae’r sioe hynod ddoniol yma wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y sioe gerdd fythgofiadwy yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Waeth beth fo’ch oedran, byddwch yn sicr o gael modd i fyw yn MAMMA MIA!

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 3 Rhagfyr 7.30pm

Perfformiad gyda chapsiynau: 4 Rhagfyr 7.30pm

Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 5 Rhagfyr 2.30pm

Taith Gyffwrdd: 5 Rhagfyr 1pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Llun – Iau. Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (argaeledd cyfyngedig), Llun – Iau.


Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.