Skip to main content

The Stars of Tomorrow

8 – 9 Chwefror 2027
Theatr Donald Gordon
The Stars of Tomorrow
8 – 9 Chwefror 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

1.30pm, 7pm

Tua 2 awr a 30 munud yn cynnwys un egwyl.

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

The Stars of Tomorrow

Mae dros 80 o ysgolion theatr, cantorion, corau a grwpiau lleol yn uno ar gyfer sioe arddangos fawreddog o gelfyddydau perfformio ieuenctid.

Mae’r cynhyrchiad bywiog yma yn dathlu’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr a bydd yn cynnwys cantorion unigol, grwpiau theatr gerdd a drama, dawnswyr stryd a hip-hop, dawnswyr ballet, codwyr hwyl, gymnastwyr, dawnswyr Gwyddelig, neuadd a Lladin ac amrywiaeth o dap, modern a jazz o’r ysgolion dawns a drama lleol gorau.

Gyda doniau ifanc rhyfeddol, goleuadau disglair ac effeithiau gweledol syfrdanol, mae hon yn sioe na ddylech chi ei cholli!

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.