A Night At The Musicals
Amser dechrau a hyd:
7.30pm
Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
Oed:
8+ (dim plant dan 2 oed).
Yn dilyn dwy flynedd o sioeau a werthodd allan, mae’r cyngerdd arbennig yma yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2027 gyda’i fersiwn cain a soffistigedig o rai o eiliadau mwyaf poblogaidd theatr gerdd.
O Wicked i Les Misérables, Chicago i Hamilton a phopeth yn y canol, mae A Night at the Musicals yn cynnwys The Novello Orchestra, un o gerddorfeydd sioe gorau’r byd, sy’n dychwelyd i’w cartref ysbrydol gyda’u brwdfrydedd a’u carisma nodedig.
Mewn noson yn llawn sêr a glamor digywilydd, yn ymuno â’r gerddorfa bydd y grŵp theatr gerdd a sêr Britain’s Got Talent Welsh of the West End, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u fideos o fersiynau anhygoel o glasuron theatr gerdd, sydd wedi cael eu gwylio dros 20 miliwn o weithiau, a pherfformiadau byw mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a The London Palladium.
Wedi’i arwain gan David Mahoney, peidiwch â cholli’r cyngerdd mawreddog yma sydd wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr Canolfan Mileniwm Cymru!
Theatr Donald Gordon
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.