Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Back To The Future

19 Hydref - 13 Tachwedd 2027

Theatr Donald Gordon

Mawredd Mawr, Caerdydd – mae’r DeLorean yn dod!

Gwisgwch eich gwregys ar gyfer Back to the Future The Musical, sy’n glanio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o’i daith gyntaf erioed o wledydd Prydain gyda'r seren o Awstralia Axel Duffy yn dychwelyd fel Marty McFly. Mae’r dihangdod cerddorol perffaith yma, a enillodd wobr Y Sioe Gerdd Newydd Orau yng Ngwobrau Olivier, WhatsOnStage a Broadway World, yn barod i fynd â chi ar daith wefreiddiol drwy amser.

Yn seiliedig ar y ffilm eiconig o 1985 ac wedi’i addasu i’r llwyfan gan Bob Gale a Robert Zemeckis, creawdwyr gwreiddiol y ffilm, mae’r cynhyrchiad arobryn yma yn syfrdanu adolygwyr ac yn cynhyrfu cynulleidfaoedd ledled y byd – a nawr tro Caerdydd yw hi i brofi’r reid oes.

Pan mae’r arddegwr Marty McFly yn cael ei anfon ‘nôl i 1955 ar ddamwain mewn peiriant amser wedi’i adeiladu gan yr ecsentrig Doc Brown, mae’n tarfu ar y continwwm gofod-amser a rhaid iddo rasio yn erbyn y cloc i unioni pethau – a mynd ‘nôl i’r dyfodol.

Peidiwch â cholli’r comedi foltedd uchel a’r llwyddiant twymgalon yma wedi’i gyfarwyddo gan yr enillydd gwobr Tony, John Rando, ac sy’n cynnwys DeLorean anhygoel sy’n herio cyfreithiau theatr.

Mae Back to the Future The Musical yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan yr enillwyr gwobrau Grammy, Alan Silvestri (Avengers: Endgame) a Glen Ballard (Man in the Mirror Michael Jackson), ochr yn ochr â chaneuon llwyddiannus o’r ffilm fel The Power of Love, Johnny B. Goode, Earth Angel a Back in Time.

Pan fydd hwn yn cyrraedd 88mya yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd yn taro’r gynulleidfa rhwng y llygaid a’r clustiau i sain rhu o bleser.

Mynnwch eich tocynnau ddoe. 

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed) Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion: Yn cynnwys synau uchel, goleuadau strobio, niwl, tân a pyrotechneg.

Amser dechrau: 2.30pm + 7.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 40 munud (gan gynnwys egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10  ar y noson agoriadol (seddi penodol). Argaeledd cyfyngedig. Ymaelodi

GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Maw–Iau (seddi penodol). Trefnu ymweliad grŵp

16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (Maw-Iau)


Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth
Burlesque_Cardiff_WhatsOn_1200x9002

Burlesque

Mrs Doubtfire

Blood Brothers

Cardiff-1280x960

Just For One Day: The Live Aid Musical

8500_73_CATS_MOON_Cardiff_WhatsOn_1200x900px

Cats

BTTF_Image_1280x960

Back To The Future

260306 ETAJ Cardiff_1280 x 960

Everybody's Talking About Jamie

Grease_Image_1280x960

Grease

PW_Image_1280x960

Pretty Woman

1200 x 900

Jesus Christ Superstar

Hadestown Cardiff Onsale 1280x960

Hadestown

CHICAGO-2026-06-CDF-60417SA-2250x1038-SafeArea-1

Chicago

Matilda The Musical

260522 Hairspray Cardiff_1200 x 900

Hairspray

MM!-2025-09-Tour-Cardiff On Sale-Thumbnail-1290x96055401SA

MAMMA MIA!

DirtyDancing-Thumb

Dirty Dancing

JB_CARDIFF_ON SALE ASSETS_OCT25_What’s On Thumbnail 1280x960 (1)

Jersey Boys

DogMan_Cardiff 1200x900 Whats On

Dog Man: The Musical