Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hadestown

29 Mehefin - 3 Gorffennaf 2027

Theatr Donald Gordon

Croeso i Hadestown – ‘Your next musical theatre obsession’ Vogue

Taith y DU ac Iwerddon | Yn dechrau mis Chwefror 2027

Mae sioe gerdd lwyddiannus Broadway a’r West End gan y gantores-cyfansoddwr caneuon Anaïs Mitchell a’r cyfarwyddwr Rachel Chavkin yn mynd ar daith yn y DU ac Iwerddon am y tro cyntaf erioed.

Mae Hadestown wedi ennill 8 Gwobr Tony gan gynnwys Y Sioe Gerdd Orau a Gwobr Grammy am yr Albwm Theatr Gerdd Gorau. Wedi’i gweld gan dros chwe miliwn, ei ffrydio gan bron biliwn ac yn boblogaidd gyda phobl o bob cwr o’r byd, mae’r sioe gerdd yma sydd wedi torri recordiau yn reid fywiog.

Mae Hadestown yn mynd â chi ar daith fythgofiadwy i’r isfyd a ‘nôl, gan blethu dwy stori gariad chwedlonol Groeg glasurol – y cariadon ifanc Orpheus ac Eurydice, a’r Brenin Hades a’i wraig Persephone.

Mewn profiad theatraidd teimladwy a hynod obeithiol, mae Hadestown yn eich gwahodd i ddychmygu sut allai’r byd fod.

Mynnwch eich tocynnau Hadestown nawr a phrofwch y ffenomenon cerddorol sydd wedi ennill calon y byd.

Amser dechrau: 

Maw - Sad 7.30pm

Mer, Iau, Sad 2.30pm

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed

Rhybuddion: Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, pyrotechneg, cleciau uchel ac iaith gref. 

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

CYNNIG AELODAU

Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (gan gynnwys y noson agoriadol)
Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau aw–Iau (ac eithrio’r noson agoriadol).

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw–Iau (ar y 2 bris uchaf). Trefnwch ymweliad grŵp.

Dyddiad talu: 15 March 2027

Trefnu ymweliad grŵp. 

16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw–Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth
Burlesque_Cardiff_WhatsOn_1200x9002

Burlesque

Mrs Doubtfire

Blood Brothers

Cardiff-1280x960

Just For One Day: The Live Aid Musical

8500_73_CATS_MOON_Cardiff_WhatsOn_1200x900px

Cats

BTTF_Image_1280x960

Back To The Future

260306 ETAJ Cardiff_1280 x 960

Everybody's Talking About Jamie

Grease_Image_1280x960

Grease

PW_Image_1280x960

Pretty Woman

1200 x 900

Jesus Christ Superstar

Hadestown Cardiff Onsale 1280x960

Hadestown

CHICAGO-2026-06-CDF-60417SA-2250x1038-SafeArea-1

Chicago

Matilda The Musical

260522 Hairspray Cardiff_1200 x 900

Hairspray

MM!-2025-09-Tour-Cardiff On Sale-Thumbnail-1290x96055401SA

MAMMA MIA!

DirtyDancing-Thumb

Dirty Dancing

JB_CARDIFF_ON SALE ASSETS_OCT25_What’s On Thumbnail 1280x960 (1)

Jersey Boys

DogMan_Cardiff 1200x900 Whats On

Dog Man: The Musical