Ar werth i aelodau Partner a Phartner Awen 3 Awst, 10am
Ar werth i aelodau Ffrind a Ffrind+ 5 Awst, 10am
Ar werth i Grwpiau 6 Awst, 10am
Ar werth i'r cyhoedd 7 Awst, 10am
Allwch chi ddim stopio EIN curiad – mae HAIRSPRAY ‘NÔL AR DAITH!
Mae Neil Hurst (Hairspray, The Full Monty) yn dychwelyd i chwarae rôl eiconig Edna Turnblad unwaith eto, gyda chastio pellach i’w gyhoeddi.
Enillodd Hairspray galon Broadway, gan gipio 8 gwobr Tony. Aeth y cynhyrchiad ymlaen i ennill 4 gwobr Olivier yn y West End a gwobrau niferus ledled y byd. Mae’r clasur twymgalon yma ‘nôl.
Gyda rhai o ganeuon mwyaf a gorau’r byd theatr gerdd, gan gynnwys Welcome to the 60s, You Can’t Stop The Beat, Good Morning Baltimore a llawer mwy, Hairspray yw’r sioe gerdd ddoniol, lawen ac ysbrydoledig i bawb!
Dilynwch hanes Tracy Turnblad, sydd â chalon fawr, a’i ffrindiau newydd Seaweed, sy’n llawn bywyd, a’i chwaer Little Inez, Link Larkin a’r penderfynol Motormouth Maybell wrth iddyn nhw ymdrechu i newid y byd. Mae Hairspray wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn y West End ac ar Broadway ac mae’n dal i gael effaith emosiynol gyda’i neges am oddefgarwch a’r frwydr yn erbyn hiliaeth.
Mae’r sioe ddifyr yma i’r teulu cyfan yn llawn caneuon bywiog a dawnsio syfrdanol – dewch i ymuno â’r curiad achos byddai eistedd yn llonydd yn drosedd!
Taith y DU o fis Ionawr 2027 – ARCHEBWCH NAWR!
'Wonderfully fresh and vivid'
Canllaw oed: 7+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb
Amser dechrau:
Maw - Sad, 7.30pm
Mer + Sad, 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 35 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNNIG AELODAU
GRWPIAU
16–30
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.