Kiri Pritchard-McLean: Josgin
Amser dechrau a hyd:
7.30pm
Tua 1 awr a 45 munud (yn cynnwys un egwyl).
Oed:
15+ (dim plant dan 2 oed).
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.
Rhybuddion:
Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith gref.
Diffiniad Josgin/Joskin/Joscin: term Gogledd Cymru sy’n cael ei ddefnyddio yn Gymraeg a Saesneg i ddisgrifio unrhyw un o gefndir gwledig neu ffermio. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd annwyl a bychanol, yn dibynnu ar y gynulleidfa.
Taith newydd sbon gan seren Live at the Apollo a QI, Kiri Pritchard-McLean.
Wrth gael ei magu ar fferm defaid a gwartheg yng Nghymru gyda phâr o ffermwyr damweiniol fel rhieni, addawodd Kiri na fyddai byth yn dod yn ffarmwr.
30 mlynedd yn ddiweddarach ac mae Kiri ‘nôl yng nghefn gwlad. Mae wedi ennill fferm a cholli rhiant ac mae wedi penderfynu trwsio’r blaned, bwydo’r byd a cheisio ailhawlio ei threftadaeth Josgin.
Mewn byd digidol gyda mwy a mwy o DA, dewch i weld digrifwr analog iawn.
Ffotograffiaeth gan Drew Forsyth
Theatr Donald Gordon
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.