Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: Jason and the Argonauts

13 Mawrth 2027

Stiwdio Weston

Paratowch i ddechrau ar antur yn llawn hud a cherddoriaeth gyda Jason a’i fand diofn o Argonauts, yn y fersiwn wefreiddiol hon sy’n ail-ddweud un o’r clasuron Groegaidd.

Mae Jason wedi ei fagu yng nghanol byd natur a cherddoriaeth mewn coedwig hudolus, ac mae’n dyheu i fod yn arwr. Pan ddaw i ddeall bod ei Ewythr Pelias wedi dwyn ei le fel Brenin, mae’n rhuthro i adennill yr orsedd. Ond mae gan y Brenin Pelias un amod: Mae’n rhaid i Jason ddod â’r Cnu Aur iddo.

Mae ei dîm o Argonauts yn ymuno ag ef ac maent yn hwylio i Colchis, sef cartref y cnu cyfriniol ond mae dreigiau peryglus a seirenau dirgel yn dod i’w rhan. Gyda’i gilydd, mae’n rhaid iddynt fod yn ddewr a chlyfar a dysgu am wir rym cerddoriaeth. Pan ddaw her enfawr i’w ran, a fydd Jason yn gwneud y dewis cywir? 

Mae’r cynhyrchiad anturus hwn yn gyflwyniad hyfryd i’r byd opera i blant, gan ddod â synau’r gerddorfa a phŵer y llais dynol yn fyw. Mae’n llawn antur, hud, a cherddoriaeth, ac yn brofiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd ifanc. 

Cyfansoddwr Gregory Spears

Libreto gan Kathryn Walat 

Caiff ei argymell ar gyfer plant 7-12 oed

Amser dechrau: 11.30am + 3pm

Hyd y perfformiad: Tua 45 munud (dim egwyl)

Cynnig teulu

Teulu o bedwar: £45 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £50 (uchafswm o ddau oedolyn)

O dan 16 

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston

Opera Cenedlaethol Cymru

Gweld popeth
WNO_AL_WMC_1280x960px

Opera Cenedlaethol Cymru: The Anonymous Lover

WNO_J_WMC_1280x960px

Opera Cenedlaethol Cymru: Jason and the Argonauts

Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru

Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig

WNO_LB_WMC_1280x960px

Opera Cenedlaethol Cymru: La bohème

WNO_BCOR_WMC_1280x960px

Opera Cenedlaethol Cymru: Bluebeard’s Castle + Oedipus Rex

WNO_FC_WMC_1280x960px

Opera Cenedlaethol Cymru: Cyngerdd i’r Teulu