What's Love Got To Do With It?
Amser dechrau a hyd:
7.30pm
Tua 2 awr a 20 munud yn cynnwys un egwyl.
Oed:
8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion:
Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb.
Ar ôl 2026 syfrdanol lle gwelwyd dros 60,000 o ffans Tina Turner ledled y DU yn canu, dawnsio ac yn cael amser anhygoel, mae What’s Love Got To Do With It? ‘nôl ac yn fwy nag erioed ar gyfer 2027! Mae’r sioe deyrnged wefreiddiol yma yn dathlu cerddoriaeth a gyrfa ddigyffelyb Brenhines unigryw Roc a Rôl, Tina Turner.
Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy yn llawn egni a roc ac enaid twymgalon, gyda band byw rhyfeddol yn dod â phopeth yn fyw. Yn llawn yr holl glasuron rydych chi’n eu nabod a’u mwynhau, mae’r sioe yn cyflwyno perfformiadau anhygoel o Proud Mary, River Deep – Mountain High, Simply The Best, Private Dancer, Nutbush City Limits a llawer mwy.
Yn camu i mewn i sodlau eiconig Tina mae Holly Bannis o Kent, merch Greg Bannis, cyn-brif ganwr Hot Chocolate. Mae taith Holly i ganol y llwyfan yn ysbrydoledig a chyffrous. Ar ôl cael ei magu mewn teulu cerddorol, datblygodd Holly ei chrefft dros ddegawd yn perfformio yn lled-broffesiynol cyn i glyweliad ar Starstruck ar ITV newid ei bywyd. “Roedd rhaid i mi wneud clyweliad fel tri o fy eiconau cerddorol ac roedd Tina yn ddewis amlwg i mi. Yn ystod y cyfnod clo, astudiais i ei pherfformiadau yn obsesiynol, ei symudiadau, sut roedd hi’n cerdded a’i hegni.”
Doedd dim llawer o amser cyn i’r tîm tu ôl i What’s Love Got To Do With It? sylwi ar ddoniau ac angerdd Holly. Cafodd ei chastio fel canwr cefndir a dirprwy yn wreiddiol, ond yn gyflym camodd i mewn i’r sbotolau, gan berchnogi’r brif ran a chael cymeradwyaeth sefyll dro ar ôl tro.
Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl sioe yn llawn egni, emosiwn a than nodweddiadol Tina. Mae’r cynhyrchiad yn dechrau gyda chaneuon fel Private Dancer, wrth i Holly ymgorffori llais pwerus a symudiadau digamsyniol Tina, gan gludo ffans i brofiad cyngerdd Tina Turner. Yna, yn yr ail hanner, mae’r gynulleidfa yn sicr o fod ar eu traed yn dawnsio ac yn canu i glasuron fel Nutbush City Limits.
Nid cyngerdd yn unig yw What’s Love Got To Do With It? – mae’n ddathliad o waddol Tina Turner, noson o lawenydd pur, a theyrnged i un o’r perfformwyr mwyaf gwefreiddiol mewn hanes cerddoriaeth.
Nodwch mai cynhyrchiad teyrnged yw hwn ac nid yw wedi’i gymeradwyo gan nac yn gysylltiedig ag Ystad Tina Turner.
3 llun
Theatr Donald Gordon
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.