Sibelius 6 & 7
Mae’r rhaglen hon yn olrhain taith o ddrama Ramantaidd i nodweddion Nordaidd o dan faton Pietari Inkinen, gydag Anna Geniushine yn unawdydd.
Mae Agorawd Wagner i Tannhäuser yn agor y cyngerdd gyda darlun pwerus o wrthdaro mewnol. Fel y disgrifiodd Wagner yr agorawd, saif fel dadl gerddorol gyflawn ynddi’i hun, o sŵn difrifol Corws Pererinion i chwildro Venusberg.
Mae Concerto i’r Piano yn A leiaf Grieg yn dilyn, sy’n waith llawn dychymyg rhapsodïaidd a lliw llachar. Mae telynegiaeth dyner bob yn ail â meistrolaeth ddisglair, sy’n cyfleu ffigurau chwedlonol a thirweddau Nordig.
Ar ôl yr egwyl, mae Chweched a Seithfed Symffoni Sibelius yn cynnig gweledigaeth o'r ffurf symffonig wedi’i hailddychmygu. Mae’r gweithiau distyll, parhaus hyn yn datblygu fel datganiadau emosiynol dwys, gan arwain at bŵer trosgynnol y Seithfed Symffoni.
GWRTHDARO MYTH LLONYDDWCH
Wagner Agorawd Tannhäuser (14')
Grieg Concerto i’r Piano (30')
Egwyl (20')
Sibelius Symffoni Rhif 6 (28')
Sibelius Symffoni Rhif 7 (21')
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
Anabl
Gostyngiad o £5
Dros 65
Gostyngiad o £2
Dan 26 oed a Myfyrwyr
£7
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).