Skip to main content

West Side Story

1 Gorffennaf 2027
Neuadd Hoddinott Y BBC
Conductor in black jacket holding a white baton, posed against a plain gray studio background.
West Side Story
1 Gorffennaf 2027, Neuadd Hoddinott Y BBC

Amser dechrau a hyd:

7:30pm
Running time TBC

Oed:

No under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.

West Side Story

CAIN | CURIADOL | CHWAREUS

Ceinder, egni a rhythm anorchfygol sy’n siapio’r rhaglen fywiog hon dan arweiniad Samuel Lee.

Pavane pour une infante défunte gan Ravel a fydd yn agor y noson, gyda’i phrudd-der digyffro, ei llinellau llyfn, a’i lliwiau cerddorfaol coeth sy’n cynnig cyfle i fyfyrio’n dawel.

Canolbwynt y cyngerdd fydd y perfformiad cyntaf erioed o’r Concerto i’r Ffidil gan Salina Fisher a ysgrifennwyd ar gyfer Geneva Lewis ac sy’n cael ei berfformio ganddi. Gan ddefnyddio llais telynegol nodweddiadol Fisher a meistrolaeth llawn mynegiant Lewis, mae’r concerto yn cyfuno eglurder, ymdeimlad o frys, a lliwiau llachar, gan roi’r ffidil wrth galon seinfyd cyfoes sy’n datblygu.

Ar ôl yr egwyl, bydd Cyfres Les Biches chwareus Poulenc yn disgleirio gyda swyn a ffraethineb, cyn i’r gerddorfa fynd ymlaen i berfformio West Side Story: Symphonic Dances gan Bernstein. Gyda rhythmau jazz yn curo, alawon yn ysgubo, ac egni’n ffrwydro, daw’r gwaith hwn â’r rhaglen i ben yn llawn bywyd a chyffro. 

Ravel Pavane pour une infante défunte (Pavane i Dywysoges Farw) (7') 
Salina Fisher Concerto i’r Ffidl (c23’) (Premiere Byd) 
Egwyl 
Poulenc Cyfres Les Biches (15’) 
Bernstein West Side Story: Symphonic Dances (24') 

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

Anabl

Gostyngiad o £5

Dros 65

Gostyngiad o £2

Dan 26 oed a Myfyrwyr

£7

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Orchestra seated on a stage inside a concert hall with an audience in the foreground
Wedi'i gyflwyno yn

Neuadd Hoddinott Y BBC

Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).