Skip to main content

Endless Love: A Tribute to Diana Ross & Lionel Richie

11 Chwefror 2027
Theatr Donald Gordon
Endless Love: A Tribute to Diana Ross & Lionel Richie
11 Chwefror 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

7.30pm

Tua 2 awr a 20 munud yn cynnwys un egwyl.

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.

Endless Love: A Tribute to Diana Ross & Lionel Richie

Mae Endless Love The Show yn dod â dau eicon at ei gilydd mewn un dathliad byw na ddylid ei golli o Diana Ross a Lionel Richie.

Yn llawn caneuon llwyddiannus a ddiffiniodd oes ac anthemau calonogol – o I’m Coming Out, Upside Down a You Can’t Hurry Love i All Night Long, Hello, Dancing on the Ceiling a’r ddeuawd orau erioed, Endless Love – dyma noson o glasuron lle rydych chi eisiau yn gwybod pob gair.

Gyda threfniannau awthentig wedi’u hysbrydoli gan deithiau byw gwreiddiol Diana a Lionel, mae Endless Love yn cyflwyno lleisiau mawr, doniau cerddorol slic a llawenydd pur o’r nodyn cyntaf i’r olaf. Gallwch chi ddisgwyl hud Motown, cyd-ganu caneuon o’r 80au a 90au a chaneuon sy’n llenwi’r llawr dawns sy’n dal i swnio mor dda heddiw ag erioed.

Mae’n llawn glamor. Mae’n hiraethus. Mae’n amhosib eistedd yn llonydd. Ffoniwch eich ffrindiau, cynheswch eich llais a pharatowch i ganu, dawnsio a dathlu trac sain cenhedlaeth.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.