Skip to main content

Hairspray

3 – 7 Awst 2027
Theatr Donald Gordon
Cartoon blue-haired woman with bow on pink background, three inset photos of performers dancing and singing.
Hairspray
3 – 7 Awst 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

Maw - Sad, 7.30pm

Mer + Sad, 2.30pm

Tua 2 awr a 35 munud (yn cynnwys un egwyl).

Oed:

7+ (dim plant dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion:

Contains flashing/strobe lighting.

Hairspray

Allwch chi ddim stopio EIN curiad – mae HAIRSPRAY ‘NÔL AR DAITH!

Mae Neil Hurst (Hairspray, The Full Monty) yn dychwelyd i chwarae rôl eiconig Edna Turnblad unwaith eto, gyda chastio pellach i’w gyhoeddi.

Enillodd Hairspray galon Broadway, gan gipio 8 gwobr Tony. Aeth y cynhyrchiad ymlaen i ennill 4 gwobr Olivier yn y West End a gwobrau niferus ledled y byd. Mae’r clasur twymgalon yma ‘nôl.

Gyda rhai o ganeuon mwyaf a gorau’r byd theatr gerdd, gan gynnwys Welcome to the 60s, You Can’t Stop The Beat, Good Morning Baltimore a llawer mwy, Hairspray yw’r sioe gerdd ddoniol, lawen ac ysbrydoledig i bawb!

Dilynwch hanes Tracy Turnblad, sydd â chalon fawr, a’i ffrindiau newydd Seaweed, sy’n llawn bywyd, a’i chwaer Little Inez, Link Larkin a’r penderfynol Motormouth Maybell wrth iddyn nhw ymdrechu i newid y byd. Mae Hairspray wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn y West End ac ar Broadway ac mae’n dal i gael effaith emosiynol gyda’i neges am oddefgarwch a’r frwydr yn erbyn hiliaeth.

Mae’r sioe ddifyr yma i’r teulu cyfan yn llawn caneuon bywiog a dawnsio syfrdanol – dewch i ymuno â’r curiad achos byddai eistedd yn llonydd yn drosedd!

Taith y DU o fis Ionawr 2027 – ARCHEBWCH NAWR!


CYNNIG AELODAU

Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (gan gynnwys y noson agoriadol)

Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Mer + Iau (ac eithrio’r noson agoriadol).

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw–Iau (ar y 2 bris uchaf).

Trefnu ymweliad grŵp. 

16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw–Iau

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Book early to ensure the best choice of seats. We regularly monitor and adjust ticket prices to optimise income and to ensure a wide range of price options where possible. Prices are subject to change. Read more.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.