Jesus Christ Superstar
Amser dechrau a hyd:
2.30pm, 7.30pm
Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
Oed:
10+ (dim plant dan 2 oed).
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.
BETH YW’R SÏON CAERDYDD?
Mae’r cynhyrchiad West End hynod lwyddiannus o Jesus Christ Superstar, gyda Sam Ryder yn chwarae’r brif rôl eiconig, nawr yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am bythefnos yn unig.
Mae Jesus Christ Superstar gan Tim Rice ag Andrew Lloyd Webber yn dilyn y digwyddiadau yn ystod dyddiau olaf Iesu Grist, fel y gwelir drwy lygaid Jiwdas. Yn adlewyrchu ar y gwreiddiau roc a ddiffiniodd cenhedlaeth, mae’r sgôr arwrol yn cynnwys ‘I Don’t Know How to Love Him’, ‘Gethsemane’ a’r gân teitl eiconig ‘Superstar’.
Tim Sheader sydd yn cyfarwyddo’r ffenomen hollfydol, gyda choreograffi gan yr enillydd gwobr Olivier, Drew McOnie, a dyluniad gan yr enillydd gwobrau Olivier a Tony, Tom Scutt. Peidiwch â cholli’r cyfle i wylio’r sioe gerdd ysblennydd, gyffrous, a nefolaidd yma.
Michael Harrison ar ran Lloyd Webber Harrison Musicals yn cyflwyno cynhyrchiad Regent’s Park Open Air Theatre.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Iau).
Dyddiad talu: 23 November 2026
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Theatr Donald Gordon
Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.