Skip to main content

The Comedy About Spies

20 – 24 Gorffennaf 2027
Theatr Donald Gordon
The Comedy About Spies
20 – 24 Gorffennaf 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

2.30pm, 7.30pm

Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)

Oed:

10+ (dim plant dan 2 oed).

Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.

Rhybuddion:

Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, pyrotechneg, cleciau uchel ac iaith gref.

The Comedy About Spies

CUDDWYBODAETH NEWYDD AM MISCHIEF. MAE THE COMEDY ABOUT SPIES YN TEITHIO’R DU.

Yn dilyn dau dymor yn y West End a werthodd allan, mae antur lwyddiannus MISCHIEF The Comedy About Spies yn mynd allan ar daith yn y DU am y tro cyntaf. Peidiwch â cholli enillydd y Ddrama Newydd Orau yng Ngwobrau WhatsOnStage 2026 gan y tîm tu ôl i The Play That Goes Wrong, Peter Pan Goes Wrong a The Comedy About a Bank Robbery.

Pan mae asiant Prydeinig twyllodrus yn dwyn cynlluniau ar gyfer arf cyfrinachol, mae ysbiwyr CIA a KGB yn glanio ar Westy Piccadilly yn Llundain ar sodlau’r ffeil. Ymunwch â chwpl ifanc di-glem, actor anlwcus yn ceisio rôl mewn ffilm ysbiwyr gyffrous a digon o asiantiaid dwbl i ddrysu hyd yn oed y gweithiwr mwyaf siarp, mewn perwyl sy’n mynd allan o reolaeth yn llwyr.

Mae’r antur ysbïo 1960au anfarwol o ddoniol yma yn llawn perwylion dryslyd, hunaniaethau cymysglyd a chamddeall trychinebus, sy’n siŵr o wneud i chi grïo chwerthin.

ARCHEBWCH NAWR. GOFYNNWCH GWESTIYNAU YN NES YMLAEN.

Cast i’w gyhoeddi. Hunaniaethau’n gyfrinachol.

This is rated 5 out of 5 stars
Daily Mail

LEAVES YOU CRYING HELPLESS TEARS OF LAUGHTER

Guardian
This is rated 5 out of 5 stars
Broadway World

CYNNIG AELODAU

Aelodau Partner a Phartner Awen: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (gan gynnwys y noson agoriadol)

Aelodau Ffrind a Ffrind+: Gostyngiad o £10 (ar y 2 bris uchaf) ar berfformiadau Maw–Iau (ac eithrio’r noson agoriadol).


GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf, Maw–Iau (ar y 2 bris uchaf). Trefnwch ymweliad grŵp.


16–30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw–Iau


Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.