Skip to main content

The Simon & Garfunkel Story

13 Chwefror 2027
Theatr Donald Gordon
Simon & Garfunkel looking out to an audience
The Simon & Garfunkel Story
13 Chwefror 2027, Theatr Donald Gordon

Amser dechrau a hyd:

7.30yh

Tua 2 awr a 15 munud (gan gynnwys egwyl)

Oed:

8+ (dim plant dan 2 oed)

Sylwch fod yn rhaid i bawb dan 16 oed eistedd gydag oedolyn sy'n 18 oed neu'n hŷn.

The Simon & Garfunkel Story

"What a great ****ing show!" - Art Garfunkel

Prin yw’r sioeau sydd wedi profi llwyddiant byd-eang rhyfeddol The Simon & Garfunkel Story, gyda nifer o sioeau wedi gwerthu pob tocyn mewn dros 50 o wledydd ledled y byd a dros 20 o berfformiadau yn West End Llundain, gan gynnwys sawl ymddangosiad yn y London Palladium byd-enwog.

Gan ddefnyddio lluniau tafluniadau enfawr a deunydd ffilm gwreiddiol, mae’r sioe lwyddiannus ryngwladol yn adrodd stori gwreiddiau ac enwogrwydd dros nos Simon & Garfunkel wedi’u cyfuno â band byw llawn yn perfformio’r holl ganeuon poblogaidd gan gynnwys Mrs Robinson, Cecilia, Bridge Over Troubled Water, Homeward Bound a llawer mwy.

Gyda chymeradwyaeth sefyll ym mhob perfformiad yn y sioe roedd Art Garfunkel ei hun yn dwli arni, dydych chi ddim eisiau colli’r sioe ryngwladol syfrdanol yma. 

Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.
Wedi'i gyflwyno yn

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.