Mae rhywbeth go arbennig am gynnal digwyddiad yn un o’n bariau theatr.
Enwir pob bar ar ôl gair o’r arysgrif adnabyddus gan y bardd Gwyneth Lewis, sydd i’w weld ar flaen yr adeilad. Mae heulwen Bae Caerdydd yn tywynnu drwy’r ffenestri nodedig yn ystod y dydd, a gyda’r nos gallwn drefnu eu bod yn cael eu goleuo yn eich lliwiau corfforaethol chi, gan roi tamaid o ‘waw’ ffactor i’ch digwyddiad.
Mae’r mannau unigryw a nodedig yma yn lleoliadau trawiadol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad preifat neu gorfforaethol. Maen nhw’n boblogaidd ar gyfer digwyddiadau llai, arddangosfeydd, digwyddiadau lansio cynnyrch neu fel ardal luniaeth ar gyfer cynadleddau preifat.