Skip to main content

Gyda'i chyfuniad o ofod, hyblygrwydd a golau naturiol, mae Ystafell y Preseli yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, cyflwyniadau, gweithdai a digwyddiadau corfforaethol.

Dyma ein hystafell gyfarfod bwrpasol fwyaf, ac mae Preseli yn addasu'n hawdd i amrywiaeth o fformatau.

Mae mannau grŵp/trafod ac ardaloedd lletygarwch cyfagos yn helpu i greu profiad di-dor i gynrychiolwyr, p'un a ydych chi'n cynnal cyfarfod hanner diwrnod neu gynhadledd ar raddfa lawn.

Mae golau naturiol yn llenwi'r ystafell trwy ffenestri allanol, tra bod gwaith celf pwrpasol gan yr artist o Gymru, Amber Hiscott, yn creu cefndir unigryw sy'n adlewyrchu ein hysbryd creadigol.

Ymholwch nawr

Angen gwybod

  • Capasiti: Theatr 130, Cabaret 70, Siâp U 30, Sefyll 80
  • Dimensiynau: 131.3m2, hyd 13.9m, isafswm lled 7.3m, uchafswm lled 11.6m
  • Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: WiFi

Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol

Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch