Skip to main content

Gydag ail lwyfan mwyaf Ewrop, mae Theatr Donald Gordon yn cynnig lleoliad ysblennydd ar gyfer cynadleddau, seremonïau graddio a digwyddiadau ar raddfa fawr.

Gyda seddi ar gyfer hyd at 1,897 o gynrychiolwyr a chapasiti ar gyfer digwyddiadau ar y llwyfan, mae'n darparu'r raddfa a'r effaith sydd eu hangen ar gyfer achlysuron sy'n gofyn am sylw.

Mae’r awditoriwm trawiadol hefyd wedi bod yn leoliad ffilmio ar gyfer cynyrchiadau ffilm mawr a phrosiectau teledu, gan ddatblygu ei enw da fel lle ar gyfer digwyddiadau rhagorol.

Gyda chefnogaeth ein tîm technegol mewnol profiadol, mae cleientiaid yn elwa o gyfleusterau sain, goleuo a chyflwyno proffesiynol, yn ogystal ag arweiniad arbenigol trwy gydol y broses o gynllunio a chyflwyno.

Mae tri bar theatr yn darparu lle ychwanegol ar gyfer rhwydweithio, lluniaeth a lletygarwch, gan eich helpu chi i greu profiad digwyddiad cyflawn i'ch gwesteion.

Ymholwch Nawr

Angen gwybod

Capasiti: Awditoriwm 1,897, ar y llwyfan 700

Dimensiynau:

Prif Lwyfan: 640m2, hyd 20m, lled 32m

Llwyfan Cefn: 192m2, hyd 12m, lled 16m

Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi, llwyfan Theatr Donald Gordon

Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol

Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch.