Glanfa
Yng nghanol ein hadeilad, Glanfa yw lle mae creadigrwydd, cymuned a digwyddiadau yn dod at ei gilydd.
Er bod Glanfa yn cynnal perfformiadau a gosodweithiau celf yn rheolaidd, mae hefyd yn lleoliad trawiadol ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a masnachol. Mae ei raddfa, ei welededd a'i leoliad canolog yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer arddangosfeydd, lansiadau cynnyrch, derbyniadau, dangosiadau a chynulliadau ar raddfa fawr.
Gan groesawu mwy na miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, mae Glanfa yn cynnig cyfleoedd eithriadol ar gyfer digwyddiadau sydd am facsimeiddio’u gwelededd yng nghanol Bae Caerdydd.
6 llun
Angen gwybod
Capasiti: Sefyll 500, Theatr 350, Gwledda 350
Dimensiynau: 688m2, hyd bras 34m, lled bras 9.7m
Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi, llwyfan parhaol, system PA a rig goleuo
Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol
Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch