Ystafell Japan
Mae ein prif ystafell bwrdd a man ar gyfer digwyddiadau preifat wedi'i chynllunio ar gyfer sgyrsiau cynhyrchiol, meddwl strategol a chreu cysylltiadau ystyrlon.
Man perffaith ar gyfer cyfarfodydd arweinyddiaeth, diwrnodau bant i dimoedd a chynadleddau bychain, mae Ystafell Japan yn cyfuno golau naturiol, technoleg cynadledda integredig ac ardal lletygarwch bwrpasol i greu amgylchedd cyfforddus a hunangynhwysol.
Pan fydd hi'n bryd parhau â'r sgwrs, mae bariau a mannau lletygarwch cyfagos yn darparu lleoliad perffaith ar gyfer lluniaeth, rhwydweithio a sgyrsiau anffurfiol.
4 llun
Angen gwybod
- Capasiti: Siâp U 25, Theatr 70, Cabaret 40
- Dimensiynau: 74m2, hyd 10.2m, isafswm lled 6.9m, uchafswm lled 7.6m
- Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi a sgrin arddull cynhadledd gyda thracio fideo o gynrychiolwyr yn yr ystafell
Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol.
Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch.