Cabaret
Ar benwythnosau, mae Cabaret yn dod yn fyw gyda drag, comedi, cerddoriaeth fyw a pherfformiadau creadigol dewr. Yn ystod yr wythnos, mae’n trawsnewid yn leoliad unigryw ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a masnachol.
Gyda llwyfan parhaol, goleuo proffesiynol a chyfleusterau sain, a’r opsiwn i agor y llenni i ddatgelu golygfeydd trawiadol ar draws Bae Caerdydd a’r Senedd, mae Cabaret yn cynnig lleoliad bythgofiadwy ar gyfer brecwast busnes, digwyddiadau rhwydweithio, cynadleddau, lansiadau a dathliadau.
Mae ei fynedfa pwrpasol, bar preifat ac addurniadau llawn cymeriad yn creu awyrgylch sy’n broffesiynol ac yn gofiadwy. Mae Cabaret yn leoliad gwych ar gyfer ffilmio, sgrinio a digwyddiadau creadigol sydd angen rhywbeth ychydig yn wahanol.
6 llun
Angen gwybod
Capasiti: Sefyll 200, Eistedd 150
Dimensiynau: 330m2
Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi, llwyfan parhaol, system PA a rig goleuo
Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol.
Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch.