Skip to main content

Gyda seddi y gellir eu tynnu'n ôl a llawr agored mawr, mae Stiwdio Weston yn darparu lleoliad hyblyg ac amlbwrpas ar gyfer cynadleddau, seremonïau gwobrwyo, lansiadau cynnyrch a digwyddiadau corfforaethol.

Yn gynfas gwag go iawn, gellir teilwra'r gofod i adlewyrchu eich brand, eich cynulleidfa a'ch amcanion. Ynghyd ag acwsteg ragorol a chymorth technegol proffesiynol, mae Stiwdio Weston wedi'i gynllunio i helpu digwyddiadau uchelgeisiol i gael effaith barhaol.

Mae ein hystafelloedd ymarfer yn cynnig gofod ychwanegol gwerthfawr ar gyfer gweithdai, sesiynau grŵp/trafod, arddangosfeydd, ardaloedd cofrestru, ystafelloedd arlwyo ac ystafelloedd gwyrdd.

Ynghyd â Stiwdio Weston, maent yn creu amgylchedd cysylltiedig lle gall gwesteion symud yn ddi-dor rhwng gweithgareddau.

Gellir llogi’r ystafelloedd ymarfer yn annibynnol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau, yn ogystal â gofod ymarfer ar gyfer grwpiau creadigol a chwmnïau sy’n ymweld.

Ymholwch Nawr

Angen gwybod

Capasiti: Theatr 250, Cabaret 200, Gwledda 200, Sefyll 200

Dimensiynau:

Stiwdio Weston – 318m2, hyd 19.6m, lled 16m

Ystafell Ymarfer 1 - 335m2, hyd 16.75m, lled 20m

Ystafell Ymarfer 3 - 320m2, hyd 20m, lled 16m

Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi, system PA a rig goleuo sylfaenol yn Stiwdio Weston yn unig

Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol

Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch