Skip to main content

Cain, clyd a chroesawgar, Copr yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd cynllunio, sesiynau strategaeth a derbyniadau i bwysigion.

Gyda dodrefn wedi'u creu â llaw, tecstilau Cymreig a goleuadau cynnil, mae'r gofod yn cynnig awyrgylch hamddenol sy'n annog sgwrs a chreadigrwydd.

Gyda bar preifat a chyfleusterau pwrpasol, mae Copr hefyd yn gweithio'n hyfryd fel ystafell werdd, stiwdio podledu, gofod cyfweld neu leoliad ffilmio.

Ymholwch nawr

Angen gwybod

Capasiti: Sefyll 30, Eistedd 22

Dimensiynau 118m2

Cyfleusterau Technegol wedi'u Cynnwys: Wi-Fi

Gall ein tîm technegol profiadol eich cefnogi gydag unrhyw ofynion AV ychwanegol

Rydyn ni’n falch i gadarnhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn gwbl hygyrch